Mae tri phrosiect a phump o dimau’n cael eu cefnogi i wneud gwahaniaeth cynaliadwy i ddechrau’r llwybr canser
Mae’r Rhaglen Arloesedd a Gwelliant Canser yn gydweithrediad rhwng Rhwydwaith Canser Cymru, Comisiwn Bevan a’r arweinwyr/partneriaid arloesedd yng Nghymru.
Daw’r Rhaglen Arloesedd a Gwelliant Canser (CIIP) ar adeg pan fo angen i’r GIG fanteisio ar adnabod cyfleoedd a syniadau newydd i ddatrys problemau presennol a bodloni’r heriau o ran darparu gofal rhagorol i gleifion o ganlyniad i’r pandemig. Mae COVID-19 wedi gwaethygu’r pwysau presennol ar wasanaethau canser a’r tu mewn iddynt, ac wedi cyflwyno heriau newydd o ran llwybrau i gleifion. Mae’r galw, a gafodd ei guddio ychydig yn ystod y pandemig hyd yma, yn dechrau dod i’r amlwg unwaith eto ac mae’r capasiti o fewn y gwasanaeth yn sylweddol is.
Mae’r Rhaglen hon yn cefnogi prosiectau all gael effaith bositif a rhoi newidiadau a fydd yn para ar waith yng Nghymru drwy fabwysiadu a rhannu arloesedd a gwelliant cynaliadwy. Mae’r prosiectau sy’n cymryd rhan yn canolbwyntio ar ran gychwynnol y llwybr canser, hyd at a chan gynnwys diagnosis. Mae pump o dimau a thri phrosiect wedi ymuno â CIIP o bump o Fyrddau Iechyd yng Nghymru.
Cefndir
Lansiwyd galwad ar gyfer ceisiadau ym mis Medi 2021, gyda chroeso i geisiadau o dimau cymunedol, gofal sylfaenol a gofal eilradd, ac yn enwedig yn croesawu ceisiadau fel partneriaethau ar draws sectorau ac ardaloedd. Darparwyd canllawiau yn rhan o’r alwad ar gyfer ceisiadau, a chafwyd brîff gwybodaeth.
Yn rhan o’r Rhaglen, mae’r timau’n cael man cefnogol wrth iddynt gyflwyno newid, yn mabwysiadu ac yn addasu arloesedd neu’n rhoi gwelliannau ar waith.
- Rhaglen 4 i 12 mis yn gweithio gyda Chomisiwn Bevan a phartneriaid arloesedd ac yn derbyn cymorth i gyflawni’r prosiect.
- Mae cyllid i gefnogi’r newid ar gael, gan gynnwys ystod eang o gostau ynghlwm wrth gyflawni’r prosiect. Mae hyn yn cynnwys amser staff.
- Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gael effaith a fydd yn cynnwys datrys y problemau presennol a thaclo’r heriau o ran cyflawni gofal rhagorol i gleifion yn sgil y pandemig.
Tri phrosiect a phump o dimau
Prosiect 1. Optimeiddio Iechyd a Pharatoi Cleifion gyda Chanser Posibl
- Hunanasesiad digidol ac optimeiddio iechyd ar gyfer cleifion gyda chanser posibl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Datblygu Adnodd Paratoi Ar-lein, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Prosiect 2. Llwybr atal canser ledled y boblogaeth
- Paratoi Cymru ar gyfer Sgrinio Canser yr Ysgyfaint gyda chofnodion ysmygu meddygon teulu, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
Prosiect 3. Llwybr Canser Cynnar: Gwasanaethau Un Pwynt
- Un pwynt ar gyfer cael diagnosis o ganser ofaraidd yn gynnar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Clinig Mynediad Cyflym Gwaedu ar ôl y Menopos, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cerrig milltir allweddol i CIIP
- Galwad am geisiadau ym mis Medi 2021, gyda phanel yn cael ei ddewis ym mis Tachwedd 2021
- Lansiwyd ar ddechrau 2022
- Man cefnogol i dimau’n dechrau ym mis Mawrth 2022 tan fis Hydref 2022, gyda chyfranogiad mewn sesiynau grŵp a chymorth un i un
- Cyfleoedd ar gyfer dysgu ledled Cymru yn dechrau ym mis Gorffennaf 2022
- Arddangos y prosiectau o fis Rhagfyr 2022
Bydd y rhaglen ar waith rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022, gyda diweddariadau rheolaidd yn dibynnu ar y prosiectau a chyrraedd cerrig milltir yn llwyddiannus.
Mae’r cyflwyniad hwn yn cynnwys diweddariad ar ddechrau’r rhaglen ym mis Ionawr 2022. Cysylltwch ar bob cyfrif i gael rhagor o wybodaeth.